Other Businesses

ABPmer

ABPmer provides marine consultancy support and on-site survey services to organizations across the UK and overseas, helping clients develop, manage, protect and operate in the marine environment.

UK Dredging

UK Dredging (UKD) operates the largest British-owned dredging fleet and specialises in the provision of reliable and cost effective port maintenance dredging services.

Mae Associated British Ports (ABP) yn gorff hanfodol sy’n hwyluso’r DU i drawsnewid i sero net. Mae gan ABP dros 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn partneriaeth â diwydiant ynni ar y môr y DU a chefnogi datblygwyr trwy'r broses lawn o gyflawni prosiectau gwynt ar y môr, trwy ddarparu canolfannau sydd wedi'u lleoli'n strategol ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd mawr. Er enghraifft, drwy ein porthladdoedd gosodwyd dros 500 o dyrbinau, mae hyn yn darparu hanner holl ynni gwynt ar y môr y DU, sef dros 7GW o ynni gwynt glân.

Dyfodol Port Talbot

Mae gennym gynlluniau cyffrous i drawsnewid ein porthladd ym Mhort Talbot yn ganolbwynt mawr ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr (FLOW) a datblygu ynni gwyrdd.

Trwy ein rhaglen Dyfodol Port Talbot bydd y porthladd yn dod yn lleoliad canolog ar gyfer gweithgynhyrchu, gosod ac integreiddio FLOW ar gyfer prosiectau yn y Môr Celtaidd.

Ond mae mwy iddo na FLOW yn unig. Rydym am weld y porthladd yn dod yn ganolbwynt hanfodol ar gyfer datblygu ynni cynaliadwy, gan ddechrau gyda chyfleuster cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy (SAF) LanzaTech sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Gallai datblygiadau yn y dyfodol hefyd gynnwys sefydlu tyrbinau gwynt ar y tir, cyfleusterau hydrogen a dal a storio carbon uwch, gan sicrhau bod y porthladd yn brif ganolfan ynni gwyrdd yng Nghymru, gan sbarduno swyddi, ffyniant a chynaliadwyedd yn y rhanbarth.

Mae'r porthladd ym Mhort Talbot wedi bod ar flaen y gad o ran newid diwydiannol o'r blaen, ac mae gweledigaeth ABP ar gyfer datblygu'r porthladd yn golygu y gall fod eto.

Mae gan y porthladd ym Mhort Talbot amodau llanw addas, harbwr dŵr dwfn cysgodol naturiol a llawer iawn o dir y gellid ei ddatblygu. Mae hefyd wedi'i leoli'n ddelfrydol yn agos at gyfleoedd ynni gwynt ar y môr sy'n dod i'r amlwg yn y Môr Celtaidd a thu hwnt o ran potensial allforio. Mae wedi’i leoli o fewn rhanbarth a chymunedau sydd â threftadaeth gyfoethog o ddiwydiant ac yn ffynhonnell gref o sgiliau a phrofiad perthnasol.

Mae ein cynllun cyffrous ar gyfer y porthladd yn gyfle i sicrhau twf mawr i Gymru a'r DU. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i greu canolfan gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi o'r radd flaenaf a darparu cyfleoedd ar gyfer ynni gwyrdd ehangach a gweithgaredd diwydiannol. Mae hyn yn cynnig cyfle i sbarduno adfywio economaidd ehangach ledled De Cymru.

Ynghyd â phorthladd ABP yn Abertawe, mae’r ffaith bod Bae Abertawe yn agos yn fodd i gydlynu gwaith adeiladu ac mae'n darparu lleoliad ar gyfer sefydliadau'r gadwyn gyflenwi– gan wneud y mwyaf o'r manteision y gall FLOW eu cyflawni trwy gydleoli yn y porthladdoedd cyfagos hyn, dim ond pum milltir fôr ar wahân. Rydym yn ystyried Bae Abertawe fel lleoliad hanfodol ar gyfer rhwydwaith ehangach o gyfleoedd twf gwyrdd.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol.

Y Porthladd Rhydd Celtaidd

Ym mis Mawrth 2023, llwyddodd y Porthladd Rhydd Celtaidd i gael ei gynnwys ar y rhestr fer i fod yn un o ddau borthladd rhydd cyntaf Cymru.

Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gydweithrediad rhwng porthladd ABP ym Mhort Talbot, porthladd Aberdaugleddau, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro.

Y porthladd rhydd fydd yr asgwrn cefn ar gyfer dyfodol glanach yn seiliedig ar wynt arnofiol ar y môr, yr economi hydrogen, tanwydd cynaliadwy, dal a storio carbon, a logisteg carbon isel.

Mae'n gyfle unigryw i Dde Cymru ddatgloi cyfleoedd – drwy hybu arloesedd, annog buddsoddiad sylweddol, a chyflymu’r llwybr i sicrhau sgiliau modern ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd i gefnogi uchelgais y DU i gyflawni sero net.

Mae gan y Porthladd Rhydd Celtaidd gynlluniau ar gyfer clwstwr o ddiwydiannau carbon isel gan gynnwys hydrogen, tanwydd cynaliadwy, dal a storio carbon a logisteg carbon isel.

Mae'r Porthladd Rhyddid Celtaidd yn anelu at gyflwyno'r achos busnes terfynol i Lywodraethau Cymru a'r DU cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac, os llwyddir i gael cymeradwyaeth, bydd y porthladd ym Mhort Talbot yn elwa o fanteision treth a thollau.

Os hoffech ddysgu mwy am y Porthladd Rhydd Celtaidd, gallwch wneud hynny yma.

 abp-port-talbot-img (1).png

*Delwedd gyfrifiadurol o sut fyddai’r porthladd ym Mhort Talbot yn edrych. Sylwch y bydd natur y prosiect yn datblygu wrth i ofynion datblygwyr a pharamedrau technoleg ddod yn gliriach.

FLOWMIS

Mae ein cynlluniau ar gyfer datblygu'r porthladd ym Mhort Talbot hefyd wedi symud ymlaen i gam rhestr sylfaenol Cynllun Buddsoddi mewn Gweithgynhyrchu Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOWMIS) Llywodraeth y DU - un o ddau leoliad yn unig yn y DU sydd wedi cael ei gydnabod fel hyn.

Mae FLOWMIS yn darparu cyllid grant i gefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith hanfodol mewn porthladdoedd a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwynt arnofiol ar y môr.

Bydd dyfarniad FLOWMIS, ynghyd â buddsoddiad sylweddol ABP, yn dechrau datgloi buddsoddiad disgwyliedig o £1 biliwn ym Mhort Talbot a'r ardal gyfagos.

Cymuned a threftadaeth

Rydym yn falch o'r rôl bwysig yr ydym yn ei chwarae yn economi Cymru a'n cysylltiadau cryf yn y gymuned. Mae ein pum porthladd yn Ne Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru.

Rydym am ddefnyddio treftadaeth ddiwydiannol Port Talbot, y gweithlu gweithgynhyrchu medrus presennol a galluoedd unigryw i sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i dde Cymru. Mae'r uchelgais hon wedi'i nodi yn ein dogfen Gweledigaeth Cymru sydd wedi’i chyhoeddi, sy'n sôn am y rôl hanfodol y gall ein porthladdoedd ei chwarae mewn adfywiad diwydiannol cynaliadwy ar gyfer De Cymru. I gael gwybod mwy am ein gweledigaeth yng Nghymru, cliciwch yma.

Ein nod yw gadael gwaddol cadarnhaol parhaol - drwy ddiogelu a gwella'r dreftadaeth a’r ardal gyfagos gan weithio tuag at gyflawni gwelliannau amgylcheddol.

Fel cymydog cyfrifol, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i ddeall eu hanghenion a'u blaenoriaethau i helpu i lunio'r cynigion ar gyfer datblygu porthladd Port Talbot – er mwyn sicrhau manteision lleol go iawn.

Rydym hefyd eisiau chwarae ein rhan wrth gyfrannu at ymrwymiadau sero net Cymru a'r DU. Mae datblygu porthladd Port Talbot hefyd yn rhan o strategaeth gynaliadwyedd ABP, 'Ready for Tomorrow'. Mae'r strategaeth yn amlinellu cynlluniau ABP i fuddsoddi £2 biliwn mewn datgarboneiddio ein gweithrediadau ein hunain erbyn 2040, yn ogystal â chefnogi seilwaith ynni gwyrdd ar raddfa fawr a phrosiectau datgarboneiddio diwydiannol.
53228748242_9e2dab04bd_o (1).jpg

Amserlenni

Mae gennym amserlenni uchelgeisiol ar gyfer cyflawni’r gwaith o ddatblygu’r porthladd ym Mhort Talbot. Byddwn yn gweithio'n agos gyda datblygwyr i ddeall eu gofynion o ran y porthladd ac rydym yn canolbwyntio ar weithio i amserlenni proses Brydlesu Cylch 5 Ystâd y Goron.

Ein huchelgais yw sicrhau bod y porthladd yn barod i fodloni gofynion datblygwyr tua diwedd y degawd.

Eisiau gwybod mwy? Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau yma

  • Gan wneud y mwyaf o fanteision ehangach gwynt arnofiol ar y môr, bydd Dyfodol Port Talbot yn gatalydd ar gyfer trawsnewid y gadwyn gyflenwi leol.

  • Bydd Dyfodol Port Talbot yn blaenoriaethu cyflenwad lleol a chaffael busnesau bach a chanolig er mwyn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol.

  • Mae gan Dyfodol Port Talbot y potensial i weddnewid y porthladd ym Mhort Talbot, i'w wneud yn ardal lanach a gwyrddach.

  • Bydd manteision hefyd yn cyrraedd yr ardal ehangach, gan gynnwys Bae Abertawe, a bydd Port Talbot yn ganolog i ail-lunio rôl cymunedau arfordirol, mewn economi gynaliadwy newydd.

  • Cydnabod bod gan Bort Talbot, a rhanbarth ehangach De Cymru, dreftadaeth ddiwydiannol gref a balch.

  • Parchu'r dreftadaeth honno a sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni mewn ffordd a fydd yn diogelu ac yn gwella hunaniaeth yr ardal.

  • Mae ABP yn bwriadu buddsoddi dros £500 miliwn ym Mhort Talbot, gan hwyluso'r porthladd fel canolfan ar gyfer gweithgynhyrchu gwynt arnofiol ar y môr, cynnal a chadw a gweithrediadau.

  • Bydd dyfarniad FLOWMIS, ochr yn ochr â'n buddsoddiad sylweddol, yn dechrau datgloi buddsoddiad disgwyliedig o £1 biliwn ym Mhort Talbot a'r ardal gyfagos.

  • Rhan greiddiol o’r prosiect yw y bydd yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â phobl leol. Bydd cyfleoedd i'r gymuned leol ein cefnogi a chyd-ddylunio'r cynllun.

  • Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd buddsoddi lleol a chyflawni cynllun y gall pobl leol fod yn falch ohono.

  • Bydd Dyfodol Port Talbot hefyd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol, gan ddarparu cyfleoedd newydd a chyffrous i bobl leol.

  • Mae gan Dyfodol Port Talbot y potensial i ddenu biliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad, gan greu gyrfaoedd hirdymor a medrus i bobl leol.